@cp8759
tagging @belt as they haven't been on since May 1st
With apologies for the time taken, I've been away. I was after the Welsh of the Order to get the title, and also to find out if "on street parking" and "off street parking" has a legal translation as what we use everyday seems literal but colloquial, Still, if they haven't got a Welsh version already, it doesn't seem to be relevant, I've therefore just put the English title in. (Must admit I thought the Welsh Language Act required public bodies to have it in both languages)
Anyway, try this. Note Anyone from the South will know that I have done this more as we would in the Gogledd.
Not 100% the 'sieve' comment works well in Welsh but it's in there as requested. I can't think of a Welsh idiom.
Annwyl Cyngor Dinas a Sir Abertawe,
Rydw i'n herio atebolrwydd ar y sail y na wnaeth ddigwydd y drosedd honedig.
Mae'r arwydd yn dangos “Deiliaid bathodyn anabledd a thrwydded yn unig”. Mae gen I fathodyn glas ac mae gen i drwydded yrru hefyd, felly roedd hi'n amlwg yr oedd y lle ar gael i mi. Ar frig fy nhrwyddedd yrru ydy'r geiriau “Trwydded Yrru”.
Bellach, mae'r Hysbysiad Tal Cosb yn honni trosedd ar-y-stryd, ond mae “THE COUNCIL OF THE CITY AND COUNTY OF SWANSEA THE ROTUNDA CARRIAGEWAY FRONTING THE GUILDHALL OFF STREET PARKING PLACE ORDER Traffic Regulation Order 2019” yn nodi mai maes parcio oddi-ar-y-stryd ydy hwn. Felly, dydy hi ddim yn bosib cael trosedd ar-y-stryd yn y fan hyn.
Erthygl 20(f) y gorchymyn yn nodi bod y mannau ar gael i ddeiliaid caniatadau G neu M, ond does dim byd ar yr arwydd ynglŷn â fathau caniatadau. Felly, mae'r arwydd yn hollol annigonol. Hefyd, byddwn i'n ychwanegu, y ffordd mae'r gorchymyn wedi cael ei ysgrifenni, mae deiliad caniatad G neu M yn cael parcio yn y mannau hyn, oes gynnyn nhw fathodyn glas ai beidio. Mae'n ymddangos, felly, bod hyn yn trechu pwrpas yn mannau hyn.
Yn olaf, mae erthygl 21 y gorchymyn yn rhoi eithriad llwyr i'r cyfyngiad i ddeiliaid bathodyn glas. Mae hyn yn amddiffyniad llwyr i'r drosedd honedig.
Mae gan achos y cyngor mwy o dyllau na rhidyll. Byddwn i'n awgrymu eich bod chi yn canslo'r Hysbysiad Tal Cosb, yn lle parhau efo'r mater ac yn codi cywilydd ar eich hunain.
Yn gywir,